
BETWS-Y-COED

LLANBERIS

CWRS RHAFFAU UCHEL iTry
Mae beiddio a dychryn i bawb ar y sialensiau awyrol hyn - leiniau zip, neidiau trapīs a llawer mwy. Gyda dau leoliad gwahanol gallwch ddewis un ai cwrs hunan dywys ym Metws y Coed neu sesiwn dan arweiniad hyfforddwr yn Llanberis.
Pa Gwrs Rhaffau Uchel i Chi?
• Betws Y Coed
Nodwedd y cwrs ym Metws y Coed yw system ddiogelwch barhaus sy’n eich galluogi i ofalu amdanoch eich hunan fel yr ewch o gwmpas 28 elfen wahanol, yn uchel ym mrigau coed, heb orfod datod yr harnais diogelwch o gwbl.
Bydd hyfforddwr yn eich cyflwyno i’r cyfarpar a gall eich gweld yr holl amser. Mae’r cwrs yn cynnwys pontydd rhaff, trawstiau cydbwyso, leiniau zip a rhwyd cargo, heb anghofio’r disgyniad o’r coed ar yr efelychydd parasiwt 50tr POWERFANT bywiog a dychrynllyd i’r sawl sy’n ddigon dewr i gymryd ‘Y Plymiad’.
• Llanberis
Mae’r cwrs yn Llanberis wedi ei seilio ar bolion anferth yn cynnig ystod gyffrous o rwystrau a sialensiau yn uchel ym mrigau’r coed. Bydd hyfforddwr gyda’ch grŵp gydol y sesiwn.
Mae’r cwrs yn cynnwys y tŵr dringo ac abseilio uchaf yn y DU, gyda grisiau mewnol yn rhoddi mynediad i gylchedau uchel a chanolog o lwybrau rhaff tyn, trawstiau cydbwyso, siglenni, neidiau a llwyfannau. Mae lein zip awyrol yn eich hyrddio heibio canopi’r coed i fwy o neidiau a dringfeydd enfawr. I orffen yn fawreddog rhowch gynnig ar y siglen anferth fel y disgynnwch lawr a fyny i gael cipolwg ar y mynyddoedd uwchben brigau’r coed.
Mae’r ddau gwrs yn addas ar gyfer pobl sy’n rhesymol ffit dros 1.3m (4tr 3m) o daldra. Dylid caniatáu dwy awr ar gyfer yr anturiaethau hyn.
Call: 0844 90 22 970
