

- Ychydig o ymdrech corfforol sydd ei angen.
- Angen peth ymdrech corfforol.
- Mae ymdrech corfforol yn rhan gynhenid o'r gweithgaredd,
nid oes rhaid ichi fod yn Olympian ond dylech fedru gwneud ymarfer rhesymol heb orfod mynd am adferiad!
- Yn yr awyr agored, fel arfer mewn un lleoliad.
- Yr Awyr Agored Mawr, gyda pheth fforio... gan ei fod yno!
- Mae dod yn agos a phersonol gyda natur yn rhan annatod o’r gweithgaredd hwn (i gyd o fewn canllawiau’r cynllun Wildlife SafE wrth gwrs!)YNGLŶN AG iTry
Fuoch chi'n dymuno mynd i ddringo creigiau, canŵio neu arfordiro yn Eryri? All reid-rib bywyd gwyllt cyffrous, neu antur rhaffau uchel eich temtio o'ch cadair gynfas?
Os felly, yna mae iTry i chi!
Rydym wedi dod ynghyd ddetholiad o rai o'r cwmnïau antur
gorau yng Ngogledd Cymru. Mae un galwad ffôn yn sicrhau
mynediad ichi i rai o'r anturiaethau mwyaf cyffrous sydd o
gwmpas.
Mae iTry ar gyfer y teulu oll – o blant i'r henoed, dablwyr i'r
rhai sy'n ceisio cyffro – dewiswyd y gweithgareddau yn
arbennig i gynnig ystod eang o brofiadau, gan apelio at bob
blas a gallu.
Mae'r Darparwyr Gweithgaredd a ddewiswyd yn
gweithredu i'r safonau diogelwch gorau gyda thrwyddedau
a chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.
Mae pob hyfforddwr yn brofiadol a chymwys iawn. Mae
eu gwybodaeth a brwdfrydedd am y gweithgaredd a'r ardal
lleol yn heintus. Cewch sicrwydd o ddiwrnod da.
Call: 0844 90 22 970
